Pererin wyf tua Salem bur

(Cryf obaith o weled gelynion dan draed)
Pererin wyf tua Salem bur,
Ddiangodd 'maes o'r Aiphtaidd dir;
  Rho nerth fy Nuw i deithio 'mlaen,
  Nes d'od i mewn i'r Ganaan lān.

Rhedwn ar frys, mawr ydyw'r fraint,
Y nef yw diwedd
    gyrfa'r saint;
  Er maint yw'r llid
      par'tow'd ein lle,
  Ym mynwes Nāf
      o fewn y ne'.

- - - - -
Pererin wyf tua Salem bur, 'Ddiangodd 'maes o'r Aiphtaidd dir; Rho nerth, fy Nuw, i deithio 'mla'n, Nes d'od i mewn i'r Ganaan lān. O nertha f'enaid gwan ei ffydd, 'Roi 'ngofal arnat ti bob dydd; Heb flino 'nghylch amseroedd draw, Y rhai bosibl byth ni ddaw. D'ysgwyddau di ddeil feichiau mawr, Arnynt mae'n gorphwys nef a llawr; Am hyn fy holl ofidiau i Gānt bwyso'n gyfan arnat ti. Dy iau sydd esmwyth im' o hyd, Trwy rin dy groes a'th gariad drud, A'th faich sydd ysgafn, - hyfryd yw Wrth brofi'th hedd a'th gariad gwiw. Pār fod d'ogoniant pur dilyth Yn nod a dyben imi byth; Dy fywyd hardd, a'th eiriau gwir, Yn wastad imi'n rheol bur. Rho imi lechu'n dawel, glyd, Tu hwnt i swn fy meiau'i gyd, Uwch twrf a themtasiynau'r llawr, Tan gysgod dy gyfiawnder mawr.
- - - - - 1,2,(3,4),5,6,7.
Pererin wyf tua Salem bur, Ddiangodd maes o'r Aiphtaidd dir; Rho nerth, fy Nuw, i deithio 'mlaen, Nes dod i mewn i'r Ganaan lān. Gelynion taer sydd o bob tu, Fel cād, am rwystro'm henaid cu I weled gwedd fy Iesu gwiw, A theimlo'th nefol hedd, fy Nuw. Mi wn y cyll pob gelyn call, Caf rwygo dyrus rwydau'r fall; Caiff pechod drwg ac uffern drist, I wel'd mai'm ffrynd yw Iesu Grist. Er maint yw lid fy mhechod llym, Ei erchyll rwysg a'i ryfedd rym, Fy Mriod mae'n dywysog mawr, Fy meiau'n llu fe'u myn i'r llawr. O Iesu da! na ad mo'th waith Nes myn'd yn llwyr ā'm henaid llaith O'r anial fyd at nefol lu 'R concwerwyr yn Nghaersalem fry. Mewn hyder ffydd mi af yn mlaen, Trwy rwystrau mawr o ddŵr a thān; O ddydd i ddydd, trwy rin y gwaed, Caf sathru pechod dan fy nhraed. Mi ddof yn hyf i ben fy nhaith, Gorphena'n wir fy llafur waith; Trwy goncro caf fyn'd at fy Nuw I gael y wisg a'r goron wiw.
1: Morgan Dafydd -1762
William Williams 1717-91
Aleluia 1749

Tonau [MH 8888]:
Babylon (Thomas Campian 1567-1620)
Leipsic (G Neumark / J S Bach)
Melindwr (<1869)
Savoy (<1811)

gwelir:
  Gelynion sydd o fesur mawr
  Gwnawd ffordd i'r nef gan Iesu cu
  Gweddio 'rwyf och'neidio yn brudd
  Gwna ni fel halen â dy ras
  O Arglwydd dena'm serch a'm bryd
  O Arglwydd dwêd i mi pa lun
  O Nertha f'enaid gwan ei ffydd
  Pa beth all mwyach ddwyn ein bryd?
  Rhedwn ar frys mawr ydyw'r fraint
  Trafaelwyr ym i'r Ganaan glyd

(The Strong hope of seeing enemies under foot)
I am a pilgrim towards pure Salem,
Who escaped out of the Egyptian land;
  Give strength my God to travel on,
  Until coming into the holy Canaan.

Run quickly, great is the privilege,
Heaven is the end
    of the course of the saints;
  Despite the extent of the anger
      our place is prepared,
  In the bosom of the Lord
      within heaven.

- - - - -
A pilgrim I am towards pure Salem, Who escape out of the Egyptian land; Give strength, my God, to travel on, Until coming into the holy Canaan. O strengthen my soul weak in its faith, To put care upon thee every day; Without grieving about distant times, Those that may possibly never come. Thy shoulders carry great burdens, Upon them rest heaven and earth; Therefore all my griefs May lean entirely upon thee. Thy yoke is easy for me always, Through the virtue of thy cross and thy costly love, And thy burden is light, - delightful it is While experiencing thy peace and thy worthy love. Cause thy pure unfailing glory to be An aim and purpose to me forever; Thy beautiful life, and thy worthy words, Constantly to me a pure rule. Grant me to hide quietly, securely, Beyond the sound of all my faults, Above the tumult and temptations of earth below, Under the shadow of thy great righteousness.
- - - - -  
I am a pilgrim towards pure Salem, Who escaped out of the Egyptian land; Give strength my God to travel on, Until coming into the holy Canaan. Fierce enemies are on every side, Like an army, to obstruct my dear soul From seeing the face of my worthy Jesus, And feeling thy heavenly peace, my God. I know every cunning enemy shall lose, I shall get to tear the tricky snares of the devil; Evil sin and sad hell shall get, To see that Jesus Christ is my friend. Despite how great is the anger of my sharp sin, Its hideous ostentation and its amazing force, My Spouse is our great prince, My faults as a host he shall take down. O good Jesus, do not leave thy work Until taking completely my timid soul From the desert world to a heavenly host The conquerors in Jerusalem above. In the confidence of faith I will go forwards, Through great obstacles of water and fire; From day to day, through the virtue of the blood, I will get to trample sin under my feet. I will come boldly to my destination, I will finish truly my labour of work; Through conquering I will get to go to my God To get the clothing and the worthy crown.
tr. 2015,20 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~